English
Gwefan Gymunedol Ar Gyfer Ty’n y Groes, Tal y Cafn, Hen Efail, Caerhun a Phontwgan
Croeso i wefan gymunedol Ty’n y Groes. Fe ddatblygwyd ac fe gynhelir y wefan hon gan Gymuned Ty’n y Groes. Mae’n gwasanaethu cymunedau Ty’n y Groes, Tal y Cafn, Hen Efail, Caerhun, a Phontwgan yn Nyffryn Conwy.
Mae pentref Ty’n y Groes yn Nyffryn Conwy, sy’n ardal eithriadol o hardd. Saif y pentref ar groesffordd ac oddi yno ceir golygfeydd hyfryd o afon Conwy wrth iddi lifo tua’i haber, ac i’r cyfeiriad arall gwelir mynyddoedd a chopaon rhan ddwyreiniol Eryri.Mae’n ardal o ddiddordeb hanesyddol – mae’r pentref ar lwybr hen lôn y porthmyn o Fôn i Lundain ac uwchlaw man croesi’r afon Conwy yn Nhal y cafn. Mae hefyd ger hen lwybr Rhufeinig a arweiniai o’r groesfan i’r gaer yng Nghaerhun a thros Bwlch y ddeufaen tuag at Segontiwm (Caernarfon).
Am gyfle i ddweud eich dweud am wasanaethau cyhoeddus y Sir a sut y gallwch ddylanwadu ar wella y gymuned leol yna cliciwch yma.